Dyma’r telerau a’r amodau sy’n berthnasol pan fyddwch yn archebu llety gyda ni, p’un a fyddwch yn defnyddio gwasanaeth archebu ar-lein neu’n archebu drwy e-bost neu dros y ffôn.
Archebu
Mae angen manylion cerdyn talu arnom yr adeg y byddwch yn gwneud eich cais i archebu er mwyn ei sicrhau (Visa, MasterCard neu Amex.) Ni chodir tâl ar eich cerdyn talu tan y byddwch yn gadael.
Mae cyfraddau’n gallu newid a chadwn yr hawl i newid eich llety pe bai raid, gan sicrhau na fyddwch yn cael eich symud i ystafell sy’n is na safon eich archeb.
Canslo a thaliadau
Os digwydd i chi ganslo archeb, mae Gwesty Glan Neigr yn cadw’r hawl i osod taliadau canslo yn unol â’r isod:
Codir 100% o dâl yr ystafell am ganslo o fewn 48 awr i’r dyddiad cyrraedd.
Dylid rhoi gwybod i Westy Glan Neigr ar 01407 812854 neu i huwowen93@yahoo.co.uk am unrhyw ganslo neu newid yn y trefniadau a byddwn yn gwneud ein gorau i gwrdd â’ch gofynion yn amodol ar y taliadau canslo uchod.
Cyrraedd a gadael
Cewch gyrraedd rhwng 3pm a 10pm y diwrnod cyntaf, a bydd rhaid gadael yr ystafell erbyn 11am fore olaf eich arhosiad.
Os byddwch yn disgwyl cyrraedd yn hwyr iawn gyda’r nos, rhowch wybod i ni ymlaen llaw fel y gallwn wneud trefniadau priodol.
Llety
Ni chaniateir ysmygu (gan gynnwys e-sigaréts) yn unrhyw le yn ein hadeilad.
Os bydd unrhyw ddifrod neu golled i gynnwys eich ystafell, gan gynnwys staeniau i unrhyw un o’r dodrefn meddal, y carpedi a’r rygiau, cadwn yr hawl i roi cost lawn atgyweirio / glanhau’r cyfryw eitem(au) ar y cerdyn credyd neu ddebyd a ddefnyddir gennych i archebu eich llety neu, os nad yw hynny’n bosib, gost prynu’r eitemau’n newydd.
Darperir pob lliain, yn cynnwys tywelion. Pe bai lliain yn cael ei symud o’r gwesty, cadwn yr hawl i roi cost prynu’r eitem ar y cerdyn credyd neu ddebyd a ddefnyddir i archebu eich llety.
Ni all Gwesty Glan Neigr dderbyn cyfrifoldeb am eich eiddo ac ni fydd yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod i eiddo a ddygir i’r gwesty neu a gaiff ei adael ar ôl, gan gynnwys unrhyw gar neu gerbyd arall.
Parcio
Mae maes parcio am ddim ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.
Bywyd y pentref
Mae Rhosneigr yn bentref tawel a byddem yn gofyn i bob un o’n gwesteion fod yn barchus tuag at ein cymdogion, yn enwedig yn hwyr yn y nos.