Mae Gwesty Glan Neigr wedi ymrwymo i warchod eich preifatrwydd a sicrhau y byddir yn ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol yn ddiogel a chyfrifol. Mae’r polisi hwn yn amlinellu sut ydym yn ceisio cyflawni hyn ac mae’n cynnwys y wybodaeth a gesglir pan fyddwch yn:
- defnyddio ein gwefan
- gwneud archeb ar ein gwefan
- ymgeisio am swydd gyda ni
- anfon e-bost atom gydag ymholiad neu gais archebu
- ein galw gydag ymholiad neu gais archebu
Diffiniad o Ddata Personol
Mae Data Personol yn golygu unrhyw ddata sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o’r data hynny.
Drwy roi eich data personol, rydych yn cytuno y gallwn ddefnyddio eich data personol yn unol â’r polisi hwn. Rydym yn casglu, defnyddio a chadw gwybodaeth bersonol amdanoch i’r graddau y mae’n rhesymol ofynnol yn unig i gynnal ein busnes yn effeithiol.
Pwy ydym ni?
- Gwesty a bar yn Rhosneigr, Ynys Môn yw Gwesty Glan Neigr
- Ein cyfeiriad cofrestredig yw: Lôn Swyddfa’r Post, Rhosneigr LL64 5JA
Sut ydym yn casglu gwybodaeth?
Rydym yn casglu gwybodaeth gennych pan fyddwch yn:
- archebu ystafell. Defnyddiwn Eviivo i dderbyn a phrosesu archebion am ystafelloedd. Gweler yr adran sy’n dwyn y teitl, “Sut a lle ydym yn storio data?” am ragor o wybodaeth am y meddalwedd trydydd parti a ddefnyddiwn i brosesu archebion.
- ymweld â’n gwesty (dewisiadau, alergeddau ac ati).
- gwneud ymholiad, naill ai trwy e-bost neu dros y ffôn.
Pa fath o wybodaeth sy’n cael ei gasglu gennych?
Efallai y gofynnir i chi gyflwyno gwybodaeth bersonol amdanoch eich hun pan fyddwch yn archebu ystafell. Byddwn yn casglu’r wybodaeth hon fel y gallwn gyflawni eich cais archebu.
Pan fyddwch yn archebu ystafell a / neu archebu ystafell wely:
Mae Gwesty Glan Neigr yn casglu gwybodaeth megis:
- teitl
- enw
- cyfeiriad e-bost (a ddefnyddir i gadarnhau archebion a gohebiaeth marchnata os ydych wedi dewis eu derbyn)
- cyfeiriad cartref neu waith
- gwybodaeth bilio
- rhif ffôn
- enw’r cwmni (os yw’n berthnasol)
- ceisiadau dietegol
- dewisiadau marchnata (p’un a ydych chi’n dewis ymuno neu gael eich eithrio)
Pan fyddwch yn mynd i mewn i’n gwefan:
Cesglir ychydig bach o ddata’n awtomatig gan ein cofnodion cofnodi mynediad i weinyddwr y we, er nad yw’r wybodaeth sylfaenol y maent yn ei storio yn ymwneud â defnyddiwr penodol ac ni ellir ei defnyddio i adnabod unigolyn. Rydym yn defnyddio cwcis perfformiad Google Analytics i arddangos data mynediad a defnydd mwy datblygedig mewn dangosfwrdd hawdd ei ddefnyddio y gallwn ni (a’n hasiantaeth gwe) ei ddehongli’n haws.
Defnyddio cwcis Google Analytics i gasglu ac arddangos gwybodaeth yn ymwneud â
- math y ddyfais (e.e. ffôn symudol, cyfrifiadur, tabled)
- system weithredu
- math y porwr
- gwybodaeth am y porwr (e.e., math, iaith, fersiwn)
- enwau parth
- amseroedd a dyddiadau mynediad
- lleoliad (gwlad a dinas / tref)
- cyfeiriadau gwefan cyfeiriol
Mae’r holl ddata a gesglir, a brosesir ac a arddangosir gan gwcis Google Analytics yn digwydd ar hap ac ni ellir byth eu holrhain i unigolyn.
Gyrfaoedd:
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio i ni, gallwch gyflwyno eich CV i huwowen93@yahoo.co.uk. Gall y wybodaeth hon gynnwys:
- manylion personol
- manylion cyflogaeth
- addysg
- hanes cyflog
- manylion perthnasol eraill
Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i asesu eich cais. Byddwn hefyd, o bosib, yn ei chadw yn ein cofnodion at y dyfodol. Rydym yn dileu’r holl negeseuon e-bost ac atodiadau unwaith nad oes gennym reswm busnes dros eu cadw, neu bob tair blynedd, p’un bynnag a ddigwydd gyntaf. A fyddech cystal ag anfon e-bost i huwowen93@yahoo.co.uk os na fyddech yn hoffi i ni gadw eich cofnodion rhagor.
Sut caiff eich gwybodaeth ei defnyddio?
Byddwn bob amser yn defnyddio eich data personol yn gyfreithlon, naill ai oherwydd ei bod yn hanfodol i gwblhau archeb, oherwydd eich bod wedi cydsynio i ni ddefnyddio eich data personol (e.e. trwy danysgrifio i negeseuon e-bost), neu oherwydd ei fod o fudd cyfreithlon i ni.
Mae angen y wybodaeth a amlinellir yn yr adran flaenorol arnom i ddeall eich anghenion a rhoi gwell gwasanaeth i chi ac, yn benodol felly, am y rhesymau a ganlyn:
- Cadw cofnodion mewnol.
- Anfon negeseuon e-bost y gwasanaeth atoch (cadarnhau archeb a chael adborth ar ôl bod yn aros yn y gwesty).
- Gwella ein cynhyrchion a’n gwasanaethau.
- Anfon gohebiaeth marchnata os ydych wedi dewis eu derbyn.
- Efallai y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i addasu’r wefan yn unol â’ch diddordebau.
Pwy sy’n medru gweld eich gwybodaeth?
Ni fyddwn yn gwerthu, dosbarthu na phrydlesu eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol yr ydym yn gofyn amdani gennych yn cael ei diogelu dan y ddeddfwriaeth gyfredol.
Ni fyddwn yn rhannu’ch gwybodaeth gyda chwmnïau oni bai ei bod yn hanfodol cyflawni gwasanaethau ar ein rhan. Cyfyngir y darparwyr gwasanaethau hyn i Eviivo i ddarparu archebion ystafelloedd gwely ar-lein. Bydd Eviivo yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth amdanoch. Ewch i’r adran isod sy’n dwyn y teitl, “Sut a lle ydym yn storio data” am ragor o wybodaeth.
Sut a lle ydym yn storio data?
Byddwn yn defnyddio eich data personol cyhyd ag y bydd angen i ni wneud hynny’n unig a / neu cyhyd â bod gennym eich caniatâd i’w cadw, a hynny er mwyn eu defnyddio fel y disgrifir yn y polisi preifatrwydd hwn.
E-byst
Pan fyddwch yn anfon e-bost i’r cyfeiriad e-bost a ddangosir ar ein gwefan, byddwn yn casglu eich cyfeiriad e-bost ac unrhyw wybodaeth arall a roddwch yn yr e-bost hwnnw (megis eich enw, eich rhif ffôn a’r wybodaeth a gynhwysir mewn unrhyw bloc llofnod yn eich e-bost).
Eviivo
Caiff data archebu ystafelloedd gwely eu storio ar gronfa ddata ddiogel a weithredir gan ein rheolwr archebu, Eviivo. Mae’r gronfa ddata hon yn cydymffurfio’n llwyr â rheolau Data’r GDPR. Ni fydd Gwesty Glan Neigr nac Eviivo yn trosglwyddo unrhyw ddata personol i unrhyw barti arall os nad yw’n rhan o’r broses archebu. Mae Eviivo yn cydymffurfio’n llwyr â GDPR. Maent yn cydymffurfio â PCI Lefel 1 a chaiff yr holl ddata eu storio’n gywir. Mae ganddynt Swyddog Diogelu Data Dynodedig. Bydd Eviivo’n defnyddio eu cwcis eu hunain i gasglu data hanfodol amdanoch. Gallwch ddarllen mwy am eu polisi Preifatrwydd a Choginio yma. Gallwch ddiffodd cwcis yn eich gosodiadau porwr er y gallai hyn gael effaith ar berfformiad y meddalwedd a ddefnyddiwn ar ein gwefan.
Eich dewisiadau
Ni fyddwn yn cysylltu â chi at ddibenion marchnata trwy e-bost, ffôn na neges destun oni bai eich bod wedi rhoi eich caniatâd ymlaen llaw. Ni fyddwn yn trosglwyddo eich manylion i unrhyw drydydd parti at ddibenion marchnata oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd penodol i ni wneud hynny. Hefyd, gallwch newid eich dewisiadau marchnata ar unrhyw adeg trwy gysylltu â ni trwy e-bost yn huwowen93@yahoo.co.uk.
Mae gennych hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth bersonol y mae Gwesty Glan Neigr yn ei chadw amdanoch chi a chywiro unrhyw anghywirdeb. Dylid gwneud unrhyw geisiadau o’r fath trwy’r cyfeiriad e-bost hwn: huwowen93@yahoo.co.uk.
Mae gennych yr hawl i dynnu’n ôl ar unrhyw adeg eich caniatâd i ni ddefnyddio eich data personol a gofyn i ni eu dileu. Ni fyddwn yn cadw eich data personol am fwy nag sy’n rhaid yn wyneb y rheswm (rhesymau) y cawsant eu casglu gyntaf. Felly, cedwir data am y cyfnodau a ganlyn: 36 mis
Diogelwch
Mae diogelwch data yn bwysig iawn i ni, ac er mwyn gwarchod eich data, rydym wedi cymryd mesurau addas i ddiogelu a sicrhau data a gesglir trwy ein Safle.
Defnyddio ‘cwcis’
Fel llawer o wefannau eraill, rydym yn defnyddio cwcis. Rydym yn eu defnyddio i’ch helpu i bersonoli eich profiad ar-lein.
Ffeil testun yw cwci a osodir ar eich disg galed gan weinydd tudalennau gwe sy’n caniatáu i’r wefan eich adnabod pan fyddwch yn mynd iddi. Casglu data am weithrediadau a phatrymau pori’n unig y mae cwcis, ac nid ydynt yn eich ‘adnabod’ fel unigolyn.
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer y dibenion a ganlyn:
- Perfformiad a dadansoddiadau: Rydym yn defnyddio cwcis Google Analytics i’n helpu i ddadansoddi sut yr eir i mewn i’n tudalennau gwe a sut cânt eu defnyddio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis i roi cipolwg ar bethau, megis edrych ar dudalennau, cyfraddau cyfnewid, gwybodaeth am ddyfais, cyfeiriadau IP ymwelwyr, a safleoedd cyfeirio.
- Trydydd Parti: Gall gwasanaethau Trydydd Parti ddefnyddio cwcis i’ch helpu i ymuno â’u gwasanaethau o’n gwasanaethau ni. Caiff unrhyw ddefnydd a wneir o gwci trydydd parti ei reoli gan bolisi preifatrwydd y trydydd parti sy’n gosod y cwci.
Gallwch osod eich porwr i beidio â derbyn cwcis, ond gall hyn gyfyngu ar eich gallu i ddefnyddio’r gwasanaethau trydydd parti ar ein gwefan.
Beth sy’n digwydd os bydd ein busnes yn newid dwylo?
O bryd i’w gilydd, gallwn, o bosib, ehangu neu leihau ein busnes a gallai hyn olygu gwerthu a / neu drosglwyddo rheolaeth o’r busnes cyfan neu o ran o’n busnes. Bydd unrhyw ddata personol a roddwyd gennych, lle mae’n berthnasol i unrhyw ran o’n busnes sy’n cael ei throsglwyddo, yn cael eu trosglwyddo ynghyd â’r rhan honno. Bydd y perchennog newydd neu’r parti newydd sy’n rheoli, dan delerau’r Polisi Preifatrwydd hwn, yn cael caniatâd i ddefnyddio’r data hynny yn unig, at yr un dibenion y cawsant eu casglu’n wreiddiol gennym.
Os bydd rhywfaint o’ch data’n cael eu trosglwyddo yn y fath fodd, ni fyddir yn cysylltu â chi ymlaen llaw ac ni fyddwch yn cael gwybod am y newidiadau.
Newidiadau i’r datganiad hwn
Bob hyn a hyn bydd Gwesty Glan Neigr yn diweddaru’r Polisi Preifatrwydd hwn i adlewyrchu adborth cwmnïau a chwsmeriaid. Mae Gwesty Glan Neigr yn eich annog i adolygu’r datganiad hwn o dro i dro i gael gwybod sut yr ydym yn diogelu eich gwybodaeth. Diweddarwyd y polisi hwn ddiwethaf ym mis Hydref 2018.